Report

Dysgu cyfunol: synthesis o newid

Astudiaeth yn seiliedig ar gyfraniadau gan brifysgolion yng Nghymru, yng ngoleuni COVID-19

Dysgu cyfunol: synthesis o newid report cover

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English.

Mae prifysgolion yn cychwyn ar flwyddyn academaidd newydd sy’n wahanol i unrhyw flwyddyn arall y byddant wedi’i hwynebu o’r blaen. Lliniaru risgiau, cyflwyno darpariaeth barhaus o ansawdd uchel, yn ogystal â phrofiad cadarnhaol i fyfyrwyr, a hyn oll wrth ddiogelu parhad gwasanaeth trwy amseroedd ansicr yw’r heriau mwyaf.

Mae defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol yn sylfaenol er mwyn sicrhau bod dysgu, ymgysylltu â myfyrwyr ac ymarfer diogel ac effeithiol yn parhau.

Dywed rheolwr gyfarwyddwr addysg uwch Jisc, Jon Baldwin:

“Bu sawl sialens yn ystod  2020, ac mae’r sector addysg uwch wedi derbyn yr her, gan ddod ynghyd i gydweithio, cyd-greu, ac ailfeddwl dulliau o addysgu a dysgu.”

Ym mis Awst 2020, cysylltodd CCAUC a Phrifysgolion Cymru â Jisc i gynhyrchu synthesis o brofiadau ac arferion, a fabwysiadwyd gan brifysgolion ledled Cymru, i gael eu rhannu a’u dathlu ac i ddysgu ohonynt. Mae amlygu unrhyw feysydd y gellid eu gwella ymhellach, yn ddelfrydol ar sail sector cyfan, hefyd wedi bod yn ffocws.

Yn seiliedig ar sgyrsiau gyda staff AU yn bennaf yng Nghymru, mae’r ddogfen hon yn rhannu rhai o ystyriaethau, profiadau ac arferion allweddol y sector sy’n ofynnol i ddatblygu a gwreiddio rhaglenni dysgu cyfunol yn llwyddiannus.

Dywed Alyson Nicholson, pennaeth Jisc Wales:

“Croesawaf yr astudiaeth, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio â phrifysgolion ar y daith i ddatblygu eu dysgu cyfunol, gan gynnwys sgiliau a thechnolegau digidol, a sicrhau bod gan fyfyrwyr sgiliau fydd yn cynnal eu llwyddiant a’u ffyniant.

Mae’r astudiaeth hon yn ategol i’r prosiect dysgu ac addysgu wedi’u hail-lunio dan arweiniad Jisc sydd, â chefnogaeth ei fwrdd cynghori, yn anelu at roi ysbrydoliaeth i arweinwyr prifysgolion ar yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, arweiniad ar sut i gyrraedd yno ac offer ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu eu cynlluniau.

Dadlwythwch yr adroddiad (pdf)