Ein Maniffesto i Gymru

Gwella Sylfeini Digidol Cymru i Gyflenwi Addysg, Sgiliau ac Ymchwil o'r Radd Flaenaf.
Wales manifesto feature1

Digidol i Gymru

Am y tro cyntaf, mae Jisc wedi lansio maniffesto ar gyfer Cymru i helpu Llywodraeth nesaf Cymru adeiladu tirwedd drydyddol ac ymchwil sy’n ddigidol gynhwysol, wydn a blaengar. Rydyn ni’n credu bod trawsnewid digidol yn hanfodol ar gyfer gyrru cynnydd cymdeithasol, economaidd, ac addysgiadol, gan ddatgloi cyfle a thrawsnewid dyfodol Cymru.

"Mae’r maniffesto hwn yn amlinellu sut y byddwn yn partneru Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn ffynnu mewn tirwedd dechnolegol sy’n newid yn gyflym. Mae Jisc wedi sefydlu partneriaeth strategol hirsefydlog â’r Llywodraeth ac addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi uchelgeisiau Digidol 2030 gan ddarparu yn ogystal mewnwelediad arbenigol ar drawsnewid digidol a mabwysiadu yn ystod y cyfnod o drawsnewid i fodel trydyddol newydd ar gyfer cyllido a rheolaeth. Fel partner strategol hanfodol, yn gweithio â’r Llywodraeth, byddwn yn sicrhau bydd Cymru yn genedl lle bydd technoleg ddigidol yn cryfhau ei haddysg, ei hiaith, ei diwylliant, ei heconomi, a’u chymunedau. Dyfodol digidol wedi’i wreiddio mewn tegwch, arloesi a chynalidwyedd, yn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu cyfranogi’n llawn ac yn hyderus yn y byd digidol."

Robin Ghurbhurun, Rheolwr-Gyfarwyddwr

Wales manifesto feature2

Dyfodol digidol gwell i addysg a ymchwil yng Nghymru

Mae’r Maniffesto hwn yn amlinellu ein gweledigaeth am Gymru fwy cynhwysol ac yn hyderus yn ddigidol, sy’n ymgorffori ymrwymiadau craidd y genedl i degwch, dwyieithrwydd, cynaliadwyedd, a lles. Mae’n dangos sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru gydweithio â Jisc a’r sector trydyddol er mwyn harneisio’r manteision llawn o arloesi digidol ar draws addysg ac ymchwil i gyflenwi addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf.

"Mae trawsnewid digidol bellach yn sylfaenol i uchelgeisiau addysg, sgiliau ac ymchwil Cymru. Mae’r maniffesto hwn yn gwahodd y Llywodraeth a’r sector trydyddol i weithio gyda Jisc er mwyn ffurfio dull cenedlaethol wedi’i gydlynu i isadeiledd digidol, DA dibynadwy a dwyieithog, a chyfle cynhwysol i bob dysgwr a chymuned."

Rhys Daniels, Cyfarwyddwr Cymru

Gofynion polisi ar gyfer tymor nesaf y Senedd

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi’r blaenoriaethau canlynol wrth wraidd eu huchelgeisiau er mwyn sicrhau ein bod ni’n adeiladu Cymru decach, wyrddach ac wedi’i grymuso’n ddigidol:

  1. Adeiladu Cymru sy'n ddigidol hyderus
  2. Buddsoddi yn isadeiledd digidol Cymru, seiberwydnwch a datblygu modelau ariannu cynaliadwy
  3. Sefydlu dull cenedlaethol ar gyfer deallusrwydd artiffisial dwyieithog dibynadwy ac effeithiol mewn addysg drydyddol
  4. Cryfhau cydweithio ar draws addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi
  5. Hyrwyddo Cymru ddwyieithog, gynhwysol a theg

Darllenwch y maniffesto

Darganfyddwch fwy