News

Mae cyfarwyddwr newydd Jisc ar gyfer Cymru am gynnal sector addysg ffyniannus mewn cyfnod o newid

Mae Rhys Daniels yn dod ag angerdd, arloesedd a phrofiad addysg Gymreig i Jisc.

Mae Rhys Daniels, a benodwyd yn gyfarwyddwr Cymru yn Jisc yn ddiweddar, yn credu y gellir cynnal trawsnewidiad digidol o sector addysg ffyniannus, a hyd yn oed ei dyfu yn y wlad wrth iddo lywio cyfnod o newid pwysig.

Mae gan Rhys 22 mlynedd o brofiad ar draws y byd addysg yng Nghymru. Yn ei rôl newydd yn Jisc, bydd yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau, cyrff sector, rhanddeiliaid a’r llywodraeth i gefnogi trawsnewid digidol ar draws addysg drydyddol, dysgu oedolion ac ymchwil yng Nghymru.

Fel partner cyflawni allweddol ar gyfer fframwaith strategol Digidol 2030, mae Jisc eisoes yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan y farchnad lafur y dyfodol yng Nghymru y sgiliau digidol sydd eu hangen i gefnogi’r economi.

Gyda’i brofiad mewn technoleg a rolau datblygu’r gweithlu yn y Brifysgol Agored (OU) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), a’i brofiad lawr gwlad fel prentis, mae gan Rhys yr arbenigedd, yr angerdd a’r egni i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Meddai Rhys:

“Rwyf wrth fy modd i ymuno â Jisc fel cyfarwyddwr newydd Cymru, ac rwy’n gyffrous i gael y cyfle i sicrhau’r canlyniadau digidol gorau i’n haelodau a’n cyllidwyr amrywiol. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw ymgysylltu ag addysg bellach ac uwch (AB ac AU), Dysgu Oedolion yn y Gymuned a chymunedau dysgu seiliedig ar waith, a phrofi arloesi'n uniongyrchol.

“Rydym yn llywio cyfnod o newid gwleidyddol yng Nghymru, ond trwy bartneriaeth barhaus rwy'n hyderus y gallwn gynnal a thyfu tirwedd addysg lewyrchus a chynhwysol.

“Ar ôl gweithio mewn AB, AU, a dysgu seiliedig ar waith, mae gen i barch aruthrol at ymroddiad darparwyr yng Nghymru i ehangu cyfranogiad a sicrhau mynediad teg i ddysgu. Rwy’n credu bod gan drawsnewid digidol ran enfawr i’w chwarae wrth barhau â’r gwaith pwysig hwn.

“Gan adeiladu ar yr ysbryd o gydweithio sydd wedi’i wreiddio mor ddwfn ledled Cymru, rwyf wedi ymrwymo i wneud Jisc yn bartner mwy dibynadwy a gwerthfawr i’n haelodau, gan eu cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau digidol a’u grymuso i barhau i gyflawni canlyniadau eithriadol.”

Meddai Robin Ghurbhurun, rheolwr gyfarwyddwr, addysg bellach, sgiliau, a chyngor a hyfforddiant AB/AU yn Jisc:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Rhys i dîm Jisc a’i rôl arwain ledled Cymru. Bydd profiad Rhys ar draws y sector trydyddol yn cryfhau ein perthnasoedd â rhanddeiliaid ymhellach ar adeg hollbwysig o ddiwygio.

“Fel cyfarwyddwr newydd Cymru, bydd Rhys yn sicrhau bod ein gwasanaethau a’n datrysiadau trawsnewid digidol yn cefnogi addysg drydyddol, sgiliau ac ymchwil i reoli eu heriau a chyflawni cyfleoedd.”

Ewch i wefan Jisc i ddysgu rhagor am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi trawsnewid digidol mewn addysg drydyddol, maes dysgu oedolion ac ymchwil ledled Cymru.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English.