Cymorth lleol a rhanbarthol i aelodau
Yn ogystal â'r buddion safonol i aelodau, rydym ni'n cynnig gwasanaethau sydd wedi'u llunio yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol er mwyn diwallu eich anghenion yn lleol.
Digwyddiadau sy'n lleol i chi
Mae Connect More, ein cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr haf ledled y DU (yn cynnwys Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru), yn rhoi cyfle i ymarferwyr ym meysydd addysg bellach (AB) ac addysg uwch (AU):
- Rannu arbenigedd a chipolygon
- Elwa o ddysgu gwersi gan gymheiriaid
- Deall yn well sut gallwn ni eich helpu chi a'ch sector
Byddwn ni hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cenedlaethol trwy gydol y flwyddyn, yn canolbwyntio ar bynciau, gwasanaethau a phrosiectau penodol, a gall pawb o'n haelodau fynychu'r rhain.
Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar ddod
Parhau i ymgysylltu
Ymgynghori
Bob blwyddyn, byddwn ni'n ymgynghori'n ffurfiol â'n haelodau ym meysydd AB ac AU i'ch diweddaru ynghylch ein gweithgareddau a sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf sy'n diwallu eich anghenion, yn cynnwys eich blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Fforwm rhanddeiliaid
Mae ein fforwm rhanddeiliaid, ar gyfer arweinwyr ym meysydd AB ac AU1, yn digwydd ar yr un pryd â Digifest bob blwyddyn, ac mae'n cynnig cyfle i aelodau ymgysylltu â ni a'n bwrdd ac yn cynnig llwyfan iddynt helpu i lunio ein strategaeth a'n blaenoriaethau, yn ogystal â'n gweithgareddau rhanbarthol.
Rhagor o gyfleoedd i gynnig adborth
Byddwn ni'n darparu cyfleoedd rheolaidd ichi i gynnig adborth, er enghraifft, trwy gyfrwng ein harolygon blynyddol o arweinwyr AB ac AU a'n cyfarfodydd briffio i adolygu pensaernïaeth Rhwydwaith Janet . Mae'r holl fforymau hyn yn cynorthwyo i sicrhau ein bod ni'n deall eich anghenion ac yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i chi.
Eich rheolwr cyfrif penodol
Mae gennym ni dros 30 o reolwyr cyfrifon ledled y DU, ac fel un o aelodau Jisc, fe gewch chi fynediad at reolwr cyfrif penodol a wnaiff gysylltu â chi a chwrdd â chysylltiadau allweddol yn eich sefydliad sawl gwaith y flwyddyn.
Ymunwch â chymuned ehangach Jisc
Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau y cewch chi'r diweddariadau diweddaraf gan Jisc.
Dilynwch ni ar Twitter yn @Jisc neu, i gael newyddion yn eich ardal, dilynwch Jisc Gogledd Iwerddon (@JiscNI), Jisc yr Alban (@JiscScotland) a Jisc Cymru (@jisc_wales).
Footnotes
- 1 Gan amlaf, cyswllt strategol yn eich sefydliad. Os na wyddoch chi pwy yw eich cynrychiolydd chi, e-bostiwch help@jisc.ac.uk